
Mae'r Nadolig wedi cyrraedd Plas y Rhiw, ac mae Ledi Siw, Bili, Gwenhwyfar a Taid wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth flynyddol 'Trimings Dolig Gora' Môn'. Ond mae 'na leidr anhysbys o gwmpas y lle yn trio rhwystro Siw a'r criw rhag ennill y gystadleuaeth. A fyddwn ni'n dod i wybod pwy yw'r lleidr? Fydd modd atal y lleidr rhag difetha'r Nadolig?
Tachwedd / Rhagfyr 2022
Pantomeim Lleidr Plas y Rhiw
Noson yng Nghwmni Heddwen Lloyd Williams

Dewch i ymuno mewn noson yng nghwmni Heddwen Lloyd Williams.
Bydd y noson yn cael ei chynnal yn ystafell Fisher y Theatr.
Bydd diodydd a thocynnau raffl yn cael eu gwerthu
Dyddiad - Tachwedd 2022.

Dewch i chwerthin lond eich boliau yn Theatr Fach Llangefni wrth i ni gynnal ein Noson Gomedi fel rhan o ddathliadau Gŵyl Cefni 2022.
Mae llu o artistiaid yn rhan o'r noson, a bydd arlwy arbennig iawn ar eich cyfer.
Mae'r digwyddiad hwn i bobl sydd dros 18 oed yn unig
Dyddiad - Mehefin 2022.
Noson Gomedi : Gŵyl Cefni x Theatr Fach

Gweithdy sgriptio hanner diwrnod yng nghwmni'r awdur a'r dramodydd amryddawn, Llŷr Titus.
Dyddiad - Mai 2022
Gweithdy Sgriptio : Llŷr Titus

Dyma gyfle arbennig i ymuno â gweithdy actio am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg dan gyfarwyddyd yr actor Gwion Aled.
Bydd y sesiwn yma i blant cynradd rhwng blynyddoedd 3 a 6.
Dyddiad - Ebrill 2022
Gweithdy Actio : Gwion Aled

Ymunwch â ni yn Theatr Fach Llangefni i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2022 mewn Noson Lawen arbennig.
Mae llu o artistiaid yn rhan o'r noson, a bydd arlwy arbennig iawn ar eich cyfer.
Un noson yn unig fydd hon, felly cofiwch brynu eich tocynnau yn fuan.
Dyddiad - Mawrth 2022
