top of page

DIGWYDDIADAU

Mae Euros newydd ddod yn dad am y tro cyntaf… a gan fod Catrin ei wraig yn ddoctor a bod Euros, wel… ddim, mae o am aros adra i fagu’r bychan. Neis de? Na. Mae magu babi’n waith anodd, diflas ag unig. Ella bod o ddim wedi cael ei wneud ar gyfer y joban yma wedi’r cwbl?

Dydd Gwener 11 Medi - 19:30

Dadra.png

Dadra

Dros ganrif ers ei eni caiff awdur Wythnos yng Nghymru Fydd gyfle i deithio trwy amser i ganfod a chafodd yr hyn a broffwydodd ei wireddu. Dyma olwg o’r newydd ar Islwyn Ffowc Elis – eicon o’n llenyddiaeth oedd yn
llawn cymhlethdodau diddorol.

Dydd Llun 28 Medi - 19:30

Islwyn.jpg

Islwyn

Sioe fydd yn edrych nol dros fywyd a gyrfa’r actores o Borthmadog.

Yn ystod hanner cynta’r noson fe fydd Ieuan Rhys yn holi Sue am ei bywyd a’u gyrfa gan adael i’r gynulleidfa ei holi’n yr ail ran.

Dydd Gwener 6 Tachwedd - 19:30

753137105_1354568280099215_7517166512132782916_n.jpg

Noson yng nghwmni 
Sue Roderick

IMG_8687.JPG
IMG_4615.JPG

Er mwyn gweld y digwyddiadau sydd wedi bod yn Theatr Fach Llangefni yn y gorffennol, gallwch glicio yma.

bottom of page