Llogi
Mae modd i chi logi nifer o bethau gan Theatr Fach Llangefni, boed yn brops, wisgoedd neu ystafelloedd. Cymerwch gip olwg ar y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig, a chysylltwch am ragor o wybodaeth.
YR AWDITORIWM
Eisiau llogi'r awditoriwm? Mae'n dal cynulleidfa o 102, ac yn cynnwys Bocs Sain a Goleuo.

GWISGOEDD
Os yn chwilio am wisg ar gyfer unrhyw brosiect neu gynhyrchiad, mae gennym lu o wisgoedd yn ein wardrob i'w llogi.

YR YSTAFELL FISHER
Yn yr ystafell Fisher mae'n gweithdai ieuenctid yn cael eu cynnal yn wythnosol. Mae'r ystafell aml bwrpas sy'n berffaith ar gyfer llu o achlysuron gwahanol. Mae cyfleusterau cegin ar gael.

PROPIAU
Mae gennym ddwy ystafell, ystafell propiau mawr ac ystafell propiau bach. Bydd prisiau'r propiau yn amrywio o ran maint a hyd llogi.
