top of page

Polisi Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd Gwefan Cymdeithas Ddrama Llangefni

(Theatr Fach Llangefni)

 

Bydd y datganiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch chi'n ymweld â'n gwefan (o ba le bynnag y byddwch yn gwneud hynny), ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae'r gyfraith yn eich diogelu.  

 

Pwrpas y Datganiad Preifatrwydd Hwn 

Nod y datganiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut rydym yn casglu a phrosesu'ch data personol, gan gynnwys unrhyw ddata y gallech fod wedi ei ddarparu drwy'r wefan hon, e.e wrth i chi gofrestru i dderbyn cylchlythyr neu ymaleodi fel aelod.

 

Mae'n bwysig eich bod chi'n darllen y datganiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw ddatganiad preifatrwydd arall neu ddatganiad prosesu teg y gallem ei ddarparu ar adegau penodol eraill. 

 

Cymdeithas Ddrama Llangefni yw'r rheolwr sy'n gyfrifol am eich data personol ac rydym yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen - 216919). Drwy’r cyfeiriad e-bost : post@theatrfachllangefni.cymru 

 

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod goruchwyliol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi fynd at yr ICO, felly gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf. 

  

Dolenni Trydydd-parti 

Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion ac apiau trydydd-parti. Gall clicio ar y dolenni hynny, neu alluogi'r cysylltiadau hynny, ganiatáu i drydydd parti gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd-parti hyn, ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan ni, rydym yn eich annog i ddarllen datganiad preifatrwydd pob gwefan rydych yn ymweld â hi. 

 

Data Personol

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r hunaniaeth wedi'i dynnu allan (data anhysbys). 

 

Mae’n bosib y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch, ac rydym wedi eu grwpio i’r categorïau canlynol: 

  • Data Hunaniaeth yn cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, enw olaf, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw. 

  • Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn. 

  • Data Defnydd yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau. 

  • Data Proffil yn cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, eitemau a brynwyd neu a archebwyd gennych, eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon. 

  • Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys eich dewisiadau wrth dderbyn gohebiaeth marchnata gennym, a'ch dewisiadau cyfathrebu. 

 

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfunol, e.e. data ystadegol neu ddata demograffig, at unrhyw ddiben. Efallai y bydd Data Cyfunol yn deillio o'ch data personol, ond ni chaiff ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw'r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch drwy'r wefan hon (gan gynnwys manylion am eich hil neu'ch ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, tueddfryd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd, a'ch data geneteg a biometrig). 

 

Sut rydym ni’n casglu data personol? 

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch, gan gynnwys y canlynol: 

 

  • Rhyngweithiadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn rhoi eich Data Hunaniaeth a'ch Data Cyswllt i ni trwy lenwi ffurflenni neu gyfathrebu â ni trwy'r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych yn ei ddarparu pan fyddwch chi’n: 

 

  • tanysgrifio i'n gwasanaeth, cylchlythyrau, manylion digwyddiadau neu gyhoeddiadau; 

  • ymaelodi â’r gymdeithas

  • yn rhoi adborth i ni. 

 

  • Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â'n gwefan, efallai y byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd pori a'ch patrymau. Rydym yn casglu’r data personol hwn trwy ddefnyddio cwcis, logiau gweinydd a thechnolegau eraill tebyg. 

 

  • Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd. Efallai y byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus, fel y nodir isod: 

​

- Data oddi wrth ddarparwyr tocynnau ar lein.

- Data Technegol o ddarparwyr dadansoddol megis Google a/neu ddarparwyr gwybodaeth chwilio. 

  

Sut rydym yn defnyddio eich data personol 

Byddwn yn defnyddio'ch data personol yn unig pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Yn gyffredinol, byddwn yn defnyddio'ch data personol dan yr amgylchiadau canlynol: 

  • Lle mae angen i ni gyflawni'r cytundeb rydym ar fin neu wedi ymrwymo iddo gyda chi. 

  • Pan fo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai rhyw drydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn cael blaenoriaeth dros y buddiannau hynny. 

 

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, heblaw mewn perthynas ag anfon gohebiaeth marchnata uniongyrchol atoch drwy e-bost. Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar y manylion a nodir uchod. 

  

Y dibenion y ddefnyddir eich data personol ar eu cyfer 

 

Rydym wedi nodi isod, ddisgrifiad o'r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio'ch data personol. 

 

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un pwrpas cyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol rydym yn defnyddio'ch data ar ei gyfer rhe eoli ein perthynas â chi, gan gynnwys:

 

  • Gweinyddu prosesau archebu, marchnata neu ymaelodi

 

  • Eich hysbysu chi am newidiadau i'n telerau neu’n polisi preifatrwydd

 

  • I weinyddu a diogelu ein busnes ar y wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd yn ôl a chynnal data)

 

  • Defnyddio dadansoddiadau data i wella ein gwefan

 

  • Gwasanaethau, marchnata, pherthynas a phrofiadau cleientiaid

 

  • I gynnig awgrymiadau ac argymhellion am wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi

 

  

Marchnata 

Rydym yn ceisio rhoi dewisiadau i chi mewn perthynas â rhai dulliau o ddefnyddio data personol, yn enwedig yng nghyd-destun marchnata a hysbysebu. 

  

Optio Allan 

Gallwch ofyn i ni, neu i drydydd partïon, roi'r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch ar unrhyw adeg trwy ddilyn y dolenni eithrio ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch, neu drwy gysylltu â ni. 

 

Pan fyddwch yn optio allan o dderbyn y negeseuon marchnata yma, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarperir i ni o ganlyniad i wasanaeth a ddarperir i chi. 

  

Datgelu eich Data Personol 

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaeth trydydd-parti ddefnyddio eich data personol i’w dibenion eu hunain, a byddwn yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol dim ond at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau ni. 

 

Diogelwch eich Data Personol

Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu’n ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i'ch data personol fel mai dim ond sywddogion, tiwtoriaid a chotractwyr awdurodedig a chanddynt wir angen busnes sydd â mynediad iddo. Os byddwn yn amau unrhyw fynediad anawdurdodedig at eich data personol, mae gennym weithdrefnau pwrpasol ar waith i ddelio â’r sefyllfa, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

  

Cadw Data - am ba hyd y byddwch chi'n defnyddio fy ngwybodaeth personol? 

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo’n angenrheidiol ar gyfer y dibenion y casglwyd y data’n wreiddiol ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd yn ôl. 

 

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data:

 

Hawliau Cyfreithiol 

O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â'ch data personol. 

Mae gennych hawl: 

  • I ofyn am fynediad i'ch data personol. 

  • I ofyn am gywiro'r data personol sydd gennym amdanoch chi. 

  • I wneud cais i ddileu eich data personol.

  • I wrthwynebu prosesu eich data personol 

  • I wneud cais am gyfyngu ar brosesu eich data personol. 

  • I ofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. 

  • I dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol.

 

Ni fydd raid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol

  

Amserlen ymateb 

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis.

bottom of page