Telerau ac Amodau Gwerthu
Cyffredinol
-
Ar ôl i chi brynu tocyn, os ydych eisiau ad-daliad, mae'n rhaid gwneud cais gyda'r theatr, bydd y pwyllgor yn trafod y cais hwnnw. Os bydd y cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi ad-daliad i chi o fewn mis. Byddwn yn diddymu swm o £1 i bob tocyn a brynwyd wrth brosesu'r ad-daliad.
-
Ni ellir ail-werthu tocynnau am elw. Bydd gwneud hynny’n gwneud y tocyn yn annilys.
-
Mae’n bosib y bydd angen prawf o gymhwyster ar gyfer tocynnau gostyngol i gael mynediad i berfformiad.
-
Mae gennym hawl i newid prisiau tocynnau sydd heb eu gwerthu, a chyflwyno a thynnu gostyngiadau, cynigion arbennig a chonsesiynau.
-
Gallwn newid y rhaglen a chael artistiaid eraill lle bo amgylchiadau'n gwneud hynny'n ofynnol.
-
Ni ellwch recordio (naill ai sain neu fideo) unrhyw ran o unrhyw berfformiad oni awdurdodir chi'n benodol i wneud hynny.
-
Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad.
Gostyngiadau
-
Ar gyfer tocyn plentyn, rhaid i chi fod o dan 18 oed ar ddyddiad y perfformiad.
-
Ar gyfer tocyn myfyriwr, rhaid i chi fod mewn addysg lawn-amser ar ddyddiad y perfformiad. Rhaid i’r perfformiad hysbysebu tocynnau myfyrwyr er mwyn gallu cael gostyngiad, ni fydd bob perfformiad yn cynnig opsiwn myfyriwr.
-
Ar gyfer tocyn pensiynwyr, rhaid i chi fod yn 60 oed neu hŷn ar ddyddiad y perfformiad. Rhaid i’r perfformiad hysbysebu tocynnau pensiynwyr er mwyn gallu cael gostyngiad, ni fydd bob perffromiad yn cynnig opsiwn pensiynwyr.
-
Er mwyn prynu tocyn Aelod. Mae'n rhaid bod wedi ymaelodi fel aelod o'r theatr o flaen llaw, gallwch wneud hynny yma. Rhaid i’r perfformiad hysbysebu tocynnau aelodau er mwyn gallu cael gostyngiad, ni fydd bob perffromiad yn cynnig opsiwn aelodau.
-
Mae gennym hawl i gyflwyno a dileu gostyngiadau. Efallai na fydd gostyngiadau ar gael ar gyfer pob perfformiad.