top of page
GRWPIAU IEUENCTID
Grŵp Iau
Grŵp Hŷn
Mae Theatr Fach yn ofod o gyffro a phrysurdeb bob nos Fercher yn ystod y tymor i griw Theatr Ieuenctid.
Mae'r sesiwn cyntaf rhwng 6.30 a 7.30yh ble mae Blynyddoedd 2,3,4,5 a 6 yn cyfarfod yn y dosbarth cynradd. Mae tua 20 aelod yn ein cylch a phawb fel tîm yn adeiladu sgiliau hyder a pherfformio drwy gemau, gwaith grŵp a chreu sgetsus byrion.
Yn ail, mae gweithdy wythnosol i flynyddoedd 7, 8 a 9 sydd yn cwrdd rhwng 7.30-8.30 yr un noson - hefyd yn ofod o ddatblygu sgiliau llwyfan megis byrfyfyrio a gwaith sgript.
Ffi y tymor yw £50 - yn 3 taliad y flwyddyn: Medi-Rhagfyr (cyfnod y Panto) Ionawr at Pasg - ac yna wedi'r Pasg at yr Haf.

bottom of page