top of page

Dewch ar daith gyda Jac a’i ffrindiau i geisio achub ei gartref rhag y Sgweiar cas sy’n mynnu cael lot fawr o arian rhent gan Jac a’i fam.

Yn llawn hwyl a chwerthin, dewch i ymuno yng nghiamocs pantomeim Theatr Fach Llangefni eleni - Jac a’r Jareniym

1-7 Rhagfyr, 2024

Jac Gwefan sgwar.png

Pantomeim : Jac a'r Jareniym

***Cynhyrchiad Saesneg

Arhosodd Jack ar faes y gad, roedd sŵn y gynnau wedi tawelu, arhosodd yno i chwilio am y bechgyn na all fynd adref, ond erbyn hyn, mae cais rhyfedd yn dod gan y cadfridogion.

 

Stori am frawdgarwch, brad ac addewidion gafodd eu torri yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Tachwedd 2024

USoldier sgwar.png

The Unknown Soldier

Mae Lloyd George yn mwynhau seibiant dros ei beint a’i bapur newydd yn nhafarn hynafol Y Penlan Fawr ym Mhwllheli pan ddaw ei hen ‘gyfaill’, Adolf Hitler, heibio. Mae’r ddau yn rwdlian, yn hel atgofion, yn ffraeo ac yn rhoi John ac Alun ar y jukebox…

Drama absẃrd am hanes, hen ddynion, a chysgod eu gweithredoedd drosom ni’i gyd…

Tachwedd 2024

bara caws.jpg

1936

14+

Digwyddiad i’r teulu cyfan ac yn gyfle i bawb ddod ynghyd i wylio drama newydd, cyffrous gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri pherson ifanc.

Tachwedd 2024

462544042_1519701578700591_1452414350308250082_n.jpg

Taith Arfor - Cymrix

Noson o ddarlleniadau drama 'o syniad i sgirpt' gan gwmni Theatr Troed-y-rhiw

Pedair drama wreiddiol gan ddramodwyr sydd wedi'u mentora gan ddramodwyr proffesiynol

Noson yn y bar yn Theatr Fach Llangefni

Hydref 2024

NOSON DDARLLENIADAU LLANGEFNI POSTER.png

Noson Ddarlleniadau Drama

NG SGWAR.png

Noson Gomedi wedi'i threfnu gan Age Cymru Gwynedd a Môn

Hywel Pitts, Geth Robyns, Fflur Pierce a Gethin Evans

Holl elw yn mynd tuag at elusennau iechyd meddwl

Hydref 2024

Noson Gomedi : Age Cymru

DI sgwar.png

Noson arbennig yng nghwmni Dafydd Iwan a'r Band yn Theatr Fach Llangefni

Medi 2024

Dafydd Iwan a'r Band

Sioe sy'n dilyn bywyd un o awduron pwysicaf Cymru - Kate Roberts.

Dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion ac yn un a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith.

Gorffennaf 2024

Screenshot 2024-06-05 at 20.06.11.png

Kate

Ymunwch â ni yn Theatr Fach Llangefni ar gyfer Noson Lawen arbennig.

Mae llu o artistiaid yn rhan o'r noson, a bydd arlwy arbennig iawn ar eich cyfer.

Mai 2024

noson lawen ig efo mm.png

Noson Lawen : Theatr Fach

sgwar gg.png

Gwesty'r Garibaldi

Mae hi'n fis Awst, noswyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref ac mae Gwesty'r Garibaldi'n mynd i fod yn llawn dop yn ystod yr wythnos. Ond mae 'na broblem - llygod, pla o lygod. 

Beth allai fynd o'i le? 

Mai 2024

ThGC_PartiPriodas_1 Taith sgwar socials.jpg

Parti Priodas

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…

Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi.

Bydd hwn yn barti i’w gofio!

Mai 2024

16+

Y dewis.png

Y Dewis

Profwch y gêm sinematig lle rydych chi'n cael dewis sut mae'r stori'n mynd, reit yng nghalon lle rydych chi'n byw. 

Taith sinematig o amgylchoedd cyfarwydd eich cymuned leol i glogwyni epig Ynys Môn. Yno, mae pedwar enaid ifanc, pob un â stori i'w hadrodd, yn cyfarfod yn adfeilion hardd a diffaith gwaith brics Porth Wen

Mai 2024

gwion aled.png

Gweithdy Actio : Gwion Aled

Dyma gyfle arbennig i ymuno â gweithdy actio am ddim dan gyfarwyddyd yr actor Gwion Aled.

Mae dau sesiwn - un cynradd ac un uwchradd

Mawrth 2024

Awyddus i feithrin y grefft o ysgirfennu sgript? Eisiau datblygu eich sgiliau? Mi fydd y dramodydd amryddawn Aled Jones Williams yn cynnal gweithdy hanner diwrnod yn Theatr Fach Llangefni i oedolion.

 

Mawrth 2024

AJW.png

Gweithdy Sgriptio : Aled Jones Williams

Taith gomedi o'r gogledd i'r de yn ymweld â Theatr Fach Llangefni. Peidiwch â cholli’r bws comedi wrth i griw o dalent newydd deithio ar draws y wlad.

Mawrth 2024

Screenshot 2024-02-14 at 07.14.23.png

Talent Mewn Tafarn : Hileri-Bws

Drama un cymeriad sy’n olrhain hanes David Lloyd George, un o Gymry Cymraeg mwyaf dadleuol ein hanes.
Dewch gyda ni trwy ddrws rhif 10 Stryd Downing i gyfarfod y Prif Weinidog o Lanstumdwy. 

Chwefror 2024

A4 Poster 5.jpeg

Dai

Noson yng nghwmni'r gantores boblogaidd o Fôn - Meinir Gwilym. Mae Meinir wedi rhyddhau ei phumed albwm yn ddiweddar - Caneuon Tyn yr Hendy sy'n cynnwys wyth o ganeuon newydd sbon.

Chwefror 2024

MG IG.png

Meinir Gwilym a'r Band

Screenshot 2024-01-08 at 10.44.42.png

Gwledd Adloniant y Ffermwyr Ifanc 

Cystadleuaeth Drama Ffermwyr Ifanc Môn.

Mae genre'r gystadleuaeth yn newid yn flynyddol rhwng Drama, Pantomeim ac Adloniant. Blwyddyn y Ddrama ydi hi eleni i griw'r mudiad ym Môn.

Chwefror 2024

mww sgwar.png

Gweithdy Sgriptio : Manon Wyn Williams

Awydd cystadlu yn yr adran lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd eleni? Eisiau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Awydd cystadlu yn eich eisteddfodau lleol?

Ionawr 2024

bottom of page