top of page

Is-arweinydd Theatr Ieuenctid

Rydym yn chwilio am is-arweinydd theatr ieuenctid i gynorthwyo'r arweinydd mewn dosbarthiadau ieuenctid yn Theatr Fach Llangefni.

 

Cyfrifoldebau :

  1. Cysgodi’r arweinydd yn y gweithdai

  2. Bod yn gyfrifol am gofrestru’r bobl ifanc ar ddechrau pob sesiwn a sicrhau bod  eu rhieni / gwarcheidwaid yn arwyddo mewn ac allan

  3. Dilyn arweiniad yr Arweinydd

  4. Bod yn barod i ddilyn unrhyw gwrs hyfforddiant priodol, e.e. amddiffyn plant

  5. Ymgyfarwyddo â chanllawiau a Pholisi Amddiffyn plant y theatr

 

Hanfodol:

1. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu siarad Cymraeg.

2. Disgwylir i gynorthwyo'r arweinydd mewn sesiynau ychwanegol â'r criw ieuenctid cyn cyfnod sioeau (telir ffi ychwanegol am y sesiynau hyn)

3. Rhaid i'r ymgeisydd fod yn 16 oed neu hÅ·n

 

Oriau Gwaith:

Mae dwy sesiwn ieuenctid y criw iau sydd rhwng 6 ac 11 oed, ac mae'r criw hÅ·n wedyn sydd rhwng 11 ac 14 oed. Mae'r sesiynau yn digwydd bob nos Fercher rhwng 18:30 a 20:30. awr o sesiwn i bob grŵp. Bydd disgwyl i'r arweinydd a'r is-arweinydd gyrraedd y theatr ychydig o flaen llaw i agor a pharatoi at y sesiwn, a bydd disgwyl i aros ychydig ar ôl i glirio a chloi.

 

Cyflog:

Cyflog yr is-arweinydd ydi £20 y noson. (telir ffi ychwaengol yn ystod sesiynau ychwanegol sy'n cael eu cynnal cyn sioeau) Bydd y cyflog yn cael ei dalu ar ddiwedd bob tymor.

 

Ymgeisio :

Er mwyn ymgeisio, anfonwch CV a phwt yn esboinio pam rydych yn dymuno ymgeisio am y swydd hon (dim mwy na 500 o eiriau) at post@theatrfachllangefni.cymru erbyn y dyddiad cau 7 Hydref 2022

 

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn cyn gynted â phosib.

bottom of page