top of page

Awydd gwella dy sgiliau sgriptio?



Awydd cystadlu yn yr adran lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd eleni? Eisiau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Awydd cystadlu yn eich eisteddfodau lleol?


Beth am ymuno â gweithdy sgriptio yng nghwmni Manon Wyn Williams, darlithydd mewn drama a sgriptio ym Mhrifysgol Bangor.


Dyma gyfle arbennig i bobl ifanc sydd o bosib yn sgriptio yn barod ac eisiau datblygu'r sgiliau hynny, neu rywun sydd â dim profiad blaenorol sydd awydd mentro i'r byd creadigol.

Mae'r sesiwn yn rhad ac am ddim, ac ar gael i bobl ifanc 16 - 25 oed sydd awydd ymuno.

Bydd y sesiwn yn dechrau am 18:00, ac mae'r rhaid cofrestru yma i sicrhau eich lle yn y gweithdy.


Beth am gofrestru heddiw? Sgen ti ddim byd i'w golli!

5 views0 comments
bottom of page