top of page

Drama newydd yn trafod y menopos yn dod i Theatr Fach

Braf iawn ydi cyhoeddi fod tocynnau ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, fydd yn ymweld â Theatr Fach Llangefni fis nesaf, bellach ar gael. Drama 'Ffenast Siop'.


Dyddiad - Nos Iau, Medi 21 @ 7:30yh

Tocynnau ar gael yma.


‘Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi'n stemio.’


Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.

Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn - mi gewch chi’r cyfan.


Mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi'r menopos.


Cast – Carys Gwilym

Cyfarwyddo – Iola Ynyr

Cerddor – Osian Gwynedd

Technegydd – Llywelyn Roberts

Cynllunydd – Lois Prys


Bydd Iola Ynyr yn cynnal sgyrsiau anffurfiol ar ddiwedd y sioe i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno ac mi fydd Siop Mirsi hefyd ar daith.


Cynhyrchiad Theatr Bara Caws mewn cydweithrediad â Galeri, Caernarfon.


Canllaw Oed 14+. Defnydd o Iaith gref a chyfeiriadau at themâu all beri loes.

2 views0 comments
bottom of page