top of page

Gwedd newydd i'r Sesiynau Ieunectid

Mae'r sesiynau ieuenctid yn rhan annatod o waith y Theatr. Ond gyda chostau cynyddol yn ystod y misoedd diwethaf, mae wedi profi'n her i gynnal y sesiynau ieuenctid fel ag yr oedden nhw.


Mae Theatr Fach Llangefni felly, wedi penderfynu cydweithio gyda Menter Môn a Theatr Ieuenctid Môn i drawsnewid y sesiynau ieuenctid ac i gydweithio er mwyn cynnig y sesiynau perfformio gorau posib i blant a phobl ifanc yr ynys.


Bydd y sesiynau wythnos yn cael eu canoli yn Llangefni, a hynny er mwyn dod a holl blant a phobl ifanc 7-18 oed sydd yn chwilio am ddarpariaeth theatr at ei gilydd yn Theatr Fach Llangefni.


Nododd Carwyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Theatr Fach: “Fel Theatr Gymunedol sydd wedi’i harwain gan wirfoddolwyr da ni’n falch iawn o’r cyfle i gydweithio gyda Menter Môn er mwyn datblygu’r ddarpariaeth theatrig sydd ar gael i bobl ifanc yr ynys. Mae gallu cynnig y profiad o berfformio mewn cynhyrchiadau yn y theatr i blant a phobl ifanc yn hynod o bwysig ac yn fraint aruthrol i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld hyder a sgiliau’r aelodau yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod”.


Bydd y sesiynau wythnosol yn rhoi’r cyfle i’r aelodau gael blas ar weithdai meistr ysgrifennu, perfformio a’r hyn sy’n digwydd gefn llwyfan, yn ogystal â chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.


Mae Nia Haf yn un sydd wedi derbyn cyfrifoldeb newydd i gydlynu’r gwaith theatr yn ddiweddar, a dyma oedd ganddi i’w ddweud: “Mae ‘na gynlluniau cŵl ar y gweill – lot o ddosbarthiadau meistr, lot o brofiadau newydd, llwyth o gydweithio – a gobeithio gawn ni dymor cyntaf llawn hwyl a dod i ‘nabod ein gilydd a be ‘da ni isio ei gyflawni dros y flwyddyn nesa! Dwi’n gyffrous iawn bod na gyfle i ni fod yn rhan o banto’r Theatr Fach eleni.

Cyffrous hefyd ydi cael cydweithio hefo stiwdios Aria, a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd fedrwn ni gynnig i bobl ifanc yr ynys. O deithiau set Rownd a Rownd i fanteisio ar gysylltiadau creadigol cwmni RONDO, bydd digon yn digwydd. ‘Da ni hefyd mewn trafodaethau hefo sawl grŵp cymunedol lleol arall, felly gwyliwch y gofod – mae Theatr Ieuenctid Môn yn ôl hefo bang!”


Bydd sesiynau TIM Mawr 11-18 oed yn cael eu cynnal rhwng 6-8 ar nos Fawrth a sesiynau TIM Bach 7-11 oed yn cael eu cynnal rhwng 6-8 ar nos Fercher.



14 views0 comments
bottom of page