top of page

Lansio gwefan newydd Theatr Fach Llangefni.

Updated: Aug 5, 2021

Mae Theatr Fach Llangefni bellach ar-lein! Er iddi fod ar y cyfryngau cymdeithasol eisoes, mae’r Theatr Fach nawr â’i gwefan ei hun, a gallwch chi ymweld â’r wefan drwy fynd ar - https://www.theatrfachllangefni.cymru

Gwefan Newydd Theatr Fach Llangefni

Dywed Cadeirydd y theatr Llio Mai Hughes - ‘Mae’n wych ein bod nawr wedi gallu sefydlu gwefan i’r theatr. Mi fydd yn ddefnyddiol iawn i gadw mewn cysylltiad â’n haelodau ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y theatr.’



Llio Mai Hughes - Cadeirydd

Ychwanegodd - ‘mae cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ni fel criw, rydym yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio ail agor yn fuan iawn. Am y tro, mae’r wefan newydd yma i ni gyd fwynhau nes bydd y theatr yn cael ailagor unwaith eto.’


Yn ogystal â’r wefan bydd nawr modd i chi gysylltu â’r theatr drwy e-bostio - post@theatrfachllangefni.cymru.


Bydd digwyddiadau a manylion ar sut i logi’r theatr a llawer mwy ar y wefan newydd, a bydd yn blatfform arbennig i arddangos ein cynlluniau presennol.


Dros gyfnod y pandemig, mae criw’r Theatr Fach wedi bod yn brysur yn adnewyddu rhannau o’r theatr, a bydd hynny’n cael ei rannu maes o law â’r cyhoedd wrth i ni gynnig mwy o ddigwyddiadau i’r gymuned.


Cofiwch gadw golwg ar y wefan, a chofiwch danysgrifio i dderbyn yr holl ddiweddariadau drwy glicio yma.

128 views
bottom of page