I ddathlu Gŵyl Ddewi eleni, mae Theatr Fach Llangefni’n falch o gyhoeddi ein bod yn cynnal Noson Lawen i ddiddanu cynulleidfaoedd Llangefni, Môn a thu hwnt.
Mewn un noson arbennig, bydd llu o artistiaid ac eitemau gwych yn rhan o’r digwyddiad cyffrous.
Yn rhan o’r noson fydd - Bach a Mawr, Catrin Angharad, Gwen Elin, Bethan Elin, Gwen Edwards, Moniars Bach, Huw Roberts a chyfeillion, Criw Ieuenctid Theatr Fach, Sgetsys ac eitemau doniol.
Dywedodd cadeirydd y theatr Llio Mai : “Roedden ni fel theatr yn awyddus iawn i ddathlu dydd Gŵyl Ddewi eleni, a pha ffordd well i wneud hynny na chynnal Noson Lawen yn yr awditoriwm. Rydym mewn sefyllfa llawer gwell bellach o ran Covid-19, felly mae’n bwysig ein bod yn cynnig digwyddiadau cyffrous i’r cyhoedd”
Ychwanegodd : “tra bod sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella, rydym yn awyddus i gynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn a llu o gynyrchiadau drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn annog i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y theatr, neu eisiau cynnal cynhyrchiad yma i gysylltu â ni ar bob cyfrif, rydym wastad yn chwilio am wynebau newydd yma yn Theatr Fach Llangefni.”
Mae tocynnau’r Noson Lawen ar werth am £10 y tocyn, a gallwch gael gafael arnyn nhw yma.
Comments