top of page

Prosiect Pum Mil - Theatr Fach Llangefni.

Mae’n amser torchi llewys ac estyn y tŵls achos mae Trystan ac Emma yn dod draw i’r theatr!


Mae’n braf iawn gallu cyhoeddi fod Theatr Fach Llangefni wedi ei dewis i fod yn rhan o gyfres nesaf Prosiect Pum Mil fydd ar S4C.


Dywedodd y Cadeirydd, Llio Mai - “Mae’n gyffrous iawn fod y Theatr wedi’i dewis i fod yn rhan o'r rhaglen i ddatblygu prosiect yn y theatr. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fwrw ati efo’r gwaith a chynnig mwy o gyfleoedd yn y theatr i’n gwirfoddolwyr a’r gymuned leol.”


Bydd y gwaith caled yn digwydd dros misoedd nesaf, ac rydym angen eich cymorth chi!

Mae angen sgiliau penodol a llawer o waith caled ar bob un o'r prosiectau sy'n ymddangos ar y rhaglen wrth iddynt fynd ati i gwblhau pob prosiect o fewn y gyllideb. Mae’r gyfres yn boblogaidd iawn ar S4C ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis o blith nifer o ymgeiswyr a ymgeisiodd i fod ar y rhaglen.


Dywedodd Gethin Williams, sy’n gyfrifol am yr ochr adeiladu yn y theatr - “Mae’r cyfle arbennig hwn yn mynd i olygu llawer iawn i’r theatr ac i’r gymuned leol. Mae’n mynd i fod yn her a hanner, ond rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at fwrw ati efo’r prosiect a chael lot fawr o hwyl yn ystod y cyfnod gwaith”


Hoffai Prosiect Pum Mil glywed gan y rhai fyddai wrth eu bodd yn cymryd rhan yn ein prosiect. Maen nhw’n arbennig o awyddus i glywed gan bobl sy’n gallu helpu efo gwaith coed, adeiladu, peintio, addurno a chlustogwaith (upholstery).


Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o’r prosiect, gallwch gysylltu â ProsiectPumMil@boomcymru.co.uk. Am fwy o wybodaeth gallwch hefyd gysylltu â post@theatrfachllangefni.cymru




243 views
bottom of page