Fel y gwelwch ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol, rydym yn hysbysebu dwy swydd yma yn Theatr Fach Llangefni ar hyn o bryd.
Rydym yn hysbysebu swydd Arweinydd Theatr Ieuenctid a swydd Is-arweinydd Theatr Ieuenctid. Dyma ddau gyfle gwych i weithio gydag aelodau ein Theatr Ieuenctid (rhwng 6 ac 11 oed), i fagu profiad ym maes y theatr a pherfformio ac i ymuno â chriw gweithgar y Theatr.
Bydd yr Arweinydd Theatr Ieuenctid yn gyfrifol am arwain y dosbarthiadau gan gynllunio’r gweithdai wythnosol a pharatoi’r aelodau ar gyfer y pantomeim ac at eu sioe flynyddol. Cewch fwy o fanylion am y swydd yma.
Cefnogi’r Arweinydd yw rôl yr Is-arweinydd Theatr Ieuenctid. Mae hyn yn cynnwys eu cysgodi a’u cynorthwyo yn ystod y gweithdai a’r ymarferion, cofrestru’r aelodau ac ymgymryd â pheth gwaith gweinyddol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Wedi cyfnod hir i ffwrdd o’r Theatr yn sgil y pandemig rydym oll yn ysu i gael dychwelyd a gweld perfformiadau ar y llwyfan a chynulleidfa yn y seddi unwaith yn rhagor. Mae hi hefyd yn gyfnod cyffrous i ni fel Theatr gydag aelodau newydd ar y Pwyllgor a gyda gwaith adnewyddu’n digwydd er mwyn diweddaru ystafell ymarfer y Theatr Ieuenctid, sef yr Ystafell Fisher.
Oes gynnoch chi ddiddordeb ymuno â thîm Theatr Fach Llangefni a’n helpu i siapio dyfodol y Theatr ar ôl cyfnod heriol dros ben?
Ewch amdani a gwnewch gais am swydd!
Er mwyn ymgeisio, anfonwch CV a phwt yn esbonio pam rydych yn dymuno ymgeisio am y swydd benodol (dim mwy na 500 o eiriau) at post@theatrfachllangefni.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 27 Awst 2021.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn yn y rôl yn ystod wythnos gyntaf mis Hydref.
Comentários