top of page

Syniad am Sgript : Galw ar bobl greadigol i rannu eu syniadau.

Yn ddiweddar bu i Theatr Fach Llangefni gyhoeddi eu cynllun newydd o’r enw ‘Syniad am Sgript’ i ddenu mwy o sgwenwyr i rannu eu syniadau, am y cyfle i ddatblygu eu gwaith yn Theatr Fach Llangefni. Bwriad ‘Syniad am Sgript’ ydi i ddarganfod pobl greadigol sydd â syniadau creadigol ac sy’n awyddus i’w datblygu. Does dim bwys beth yw eich oedran gall unrhyw un gymryd rhan.


Mae’r theatr yn derbyn ceisiadau o bob math - boed yn sgets, rifíw, drama, panto neu ddarn o theatr amgen. Mae’r dewis yn eich dwylo chi.

Bydd yr unigolyn sy’n cael eu dewis i ddatblygu eu syniad yn cael y cyfle i gydweithio â’r theatr gan gynnwys datblygu eu syniad â’r awdur a’r dramodydd Gareth Evans Jones. Yn ddarlithydd ym mhrifysgol Bangor, mae Gareth wedi cyhoeddi nofel yn darlunio profiadau’r Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ym mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn ogystal, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, roedd Gareth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama gyda’i ddrama Adar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020.

Yn ddiweddar, bu Gareth yn llwyddiannus am yr eildro yng nghystadleuaeth y Fedal ddrama gyda'i ddrama Cadi Ffan a Jan yn yr Eisteddfod Amgen 2021.


Dywed Gareth Evans-Jones : ‘Mae’n bleser cael bod yn rhan o’r cynllun Syniad am Sgript sy’n cael ei gynnal gan Theatr Fach Llangefni. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cynnig i ddramodwyr newydd rannu a datblygu eu syniadau yn y theatr.’


Gareth Evans Jones

Ychwanegodd - ‘Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio efo un unigolyn lwcus i ddatblygu eu syniad, ac mi fydd hi’n braf iawn gweld eu syniad yn cael ei berfformio o flaen cynulleidfa fyw yn y theatr maes o law. Rwy’n annog unrhyw un i fynd amdani, does dim angen i’ch syniad fod yn un perffaith neu gyflawn, dim ond braslun rydym yn chwilio amdano - ewch amdani!’


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i weithio’n agos â Gareth Evans-Jones i ddatblygu eu syniadau ac yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn y theatr o flaen cynulleidfa fyw yn 2022.

Os oes gennych chi ddiddordeb, y cwbl sy’n rhaid i chi wneud ydi anfon eich syniad cychwynnol (dim mwy nag un ochr A4) i’r cyfeiriad e-bost - syniadamsgripttheatrfach@gmail.com erbyn y dyddiad cau sef - Dydd Llun, 6 Medi 2021.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ar bob cyfri, a bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw gwestiwn.

156 views
bottom of page