top of page
Writer's pictureCarwyn Jones

Theatr Fach yn paratoi i lwyfannu drama


Rhai o'r actorion a'r cyfarwyddwr yn darllen y sgript
Criw gweithgar y ddrama

Mae’r haf yn gyfnod o ymlacio i lawer iawn o bobl – ond dydi hynny ddim yn wir i griw gweithgar y Theatr Fach!


Mae na griw brwd wedi dod at ei gilydd dros yr wythnosau diwethaf i ddechrau ymarfer drama fydd yn cael ei llwyfannu yn y Theatr ddiwedd Medi.


Bydd yr holl fanylion a sut mae archebu tocynnau yn cael eu rhannu yn fuan iawn gyda phawb. Ond am y tro, beth am danysgrifio i rhestr bostio’r theatr yma i gael y manylion diweddaraf.


Diolch o galon i’r criw am eu gwaith caled yn cynhyrchu, actio, peintio a bob dim arall dros yr wythnosau diwethaf! Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r gwaith gorffenedig yn fuan iawn.

6 views0 comments

Comments


bottom of page