top of page

Twdalŵ i Halibadŵ.

Llenni Theatr Fach Llangefni yn cau ar gynhyrchiad llwyddiannus Helynt yn Halibadŵ

Dyna ddiwedd i gyfnod y pantomeim yn Theatr Fach Llangefni am y flwyddyn 2021. Helynt yn Halibadŵ oedd y cynhyrchiad cyntaf i Theatr Fach lwyfannu ers cyfnod Covid.



Y Cast a chriw B
Y Cast a chriw B

Mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf cael bod yn ôl ar y llwyfan unwaith eto yn diddannu’r gymuned leol. Er mai dim ond hanner capasiti oedd eleni, mi werthodd y tocynnau’n sydyn iawn, sy’n profi fod Ynys Môn a Llangefni yn sicr wedi colli’r holl sioeau na gafodd eu llwyfannu yn y theatr o ganlyniad i Covid-19.





Dywedodd Cadeirydd y theatr Llio Mai “Mae wedi bod yn llawer rhy hir heb gynhyrchiad ar y llwyfan, gwych oedd hi felly i allu croesawu cynulleidfaoedd brwd dros gyfnod o 6 niwrnod i’r theatr i wylio’r pantomeim, ac mae’r adborth wedi bod yn hynod o bositif.

Ychwanegodd “Hoffwn estyn fy niolch fel cadeirydd i bawb a oedd mor barod i’n cefnogi fel theatr - y cast a’r plant, y gwirfoddolwyr a’r gynulleidfa. Roedd pawb mor barod i gydweithio i ddangos eu pasys covid ac i ddilyn y canllawiau ychwanegol, ac roedd o wir yn gwneud ein gwaith ni fel gwirfoddolwyr yn llawer haws.”

Un a oedd yn y theatr yn ystod yr wythnos oedd yr awdur o Fôn, Marlyn Samuel.

Dywedodd - "Un o uchafbwyntiau calendr cynyrchiadau Theatr Fach Llangefni yn ddi os ydi’r Pantomeim blynyddol. Oherwydd Covid, am y tro y cyntaf ers blynyddoedd lawer ni chafwyd pantomeim y llynedd wrth gwrs. Braf iawn felly oedd cael camu’n ôl i’r theatr eleni i fwynhau’r Pantomeim unwaith eto. Gwych iawn hefyd oedd cael gwylio a mwynhau pantomeim newydd sbon danlli wedi cael ei ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y criw gan Caryl Bryn a Carwyn Jones.



Marlyn Samuel
Marlyn Samuel

"Chafodd y gynulleidfa ddim eu siomi. Roedd yr elfennau hanfodol sydd ei angen mewn pantomeim i gyd yno; Y dame, sef Mrs Blodwen Halibalŵ a oedd yn cael ei hactio gan un sy’n hen law ar chwarae’r dame bellach, Gethin Rees Roberts y wrach ddrwg werdd, Derwela Drwynhir oedd yn cael ei hactio gan Caryl Bryn, y ddau dwp, Dai a Derfel oedd yn cael ei chwarae gyda amseriad comig perffaith gan Alun Lloyd Roberts a Gethin Williams. Roedd digon o hwyl a slapstic a chyffyrddiadau doniol iawn fel yr olygfa llosgi’r twrci a’r dame yn trwsio’r lein ddillad. Hyfryd oedd clywed chwerthin ac ymateb y gynulleidfa yn atsain drwy’r awditoriwm unwaith eto. Llongyfarchiadau mawr i’r criw ifanc, brwdfrydig a talentog. Yn sicr, mae dyfodol Theatr Fach yn ddiogel yn eu dwylo .


Rydym yn gobeithio’n arw fod y pantomeim yn ddechrau i lu o gynyrchiadau eto, ac mi fyddwn fel pwyllgor rheoli y theatr yn bwrw ati i geisio darparu calendr llawn o gynyrchiadau a digwyddiadau yn 2022 yn ddibynnol ar sefyllfa gyfredol Covid.

Diolch unwaith eto i bawb a ddaeth i wylio’r pantomeim, a chofiwch beidio â chadw’n ddieithr.







172 views
bottom of page