top of page

Digwyddiadau a fu

Dros ganrif ers ei eni caiff awdur Wythnos yng Nghymru Fydd gyfle i deithio trwy amser i ganfod a chafodd yr hyn a broffwydodd ei wireddu. Dyma olwg o’r newydd ar Islwyn Ffowc Elis – eicon o’n llenyddiaeth oedd yn
llawn cymhlethdodau diddorol.

​

Dydd Llun 28 Medi - 19:30

Islwyn.jpg

Islwyn

Mae Euros newydd ddod yn dad am y tro cyntaf… a gan fod Catrin ei wraig yn ddoctor a bod Euros, wel… ddim, mae o am aros adra i fagu’r bychan. Neis de? Na. Mae magu babi’n waith anodd, diflas ag unig. Ella bod o ddim wedi cael ei wneud ar gyfer y joban yma wedi’r cwbl?

​

Dydd Gwener 11 Medi - 19:30

Dadra.png

Dadra

Dewch i fwynhau bore o hwyl yn y theatr gyda’r awdures plant, Catrin Angharad Jones! Dyma sesiwn addas i blant 4 i 7 oed sy’n mwynhau straeon, canu, dawnsio a pherfformio, dylunio neu fwyta danteithion!

Bydd cyfle i’r plant fwynhau llu o weithgareddau mewn awyrgylch hamddenol yng nghofal Catrin ac aelodau’r theatr.

​

Dydd Sul 5 Gorffennaf - 10:00 - 12:30

WhatsApp Image 2026-06-17 at 22.22.22.jpeg

Parti Theatr : Llygoden y Llwyfan

Dewch ar daith i Gastell Biwmares, i fyd o dwyll a brad! A fydd ein ffyddloniaid yn llwyddo i gadw’r arian o grafangau y Bradwrs diawl?! A fydd Clodia Wankleman yn llwyddo i gadw trefn ar bawb? Amser a ddengys….ar “BRADWRS!”
Sioe yn llawn hwyl a hiwmor coch - yn cynnwys iaith gref a golygfeydd anaddas i rai dan 18 oed.

​

Ebrill 29, 30 & Mai 1, 2 - 19:30

Bradwrs_A3 RGB.jpg

Bradwrs!

Ymunwch â ni am noson gynnes a chroesawgar o gyfrwng seicig gyda Rob G Parkes, sy'n teithio'r holl ffordd o Gaerfyrddin i Langefni i rannu negeseuon cariadus ac ysbrydol gyda'r gynulleidfa.

Bydd holl elw'r tocynnau yn mynd tuag at Gronfa Eisteddfod yr Urdd 2026 ardal Bodwrog, Bodffordd, Llangwyllog a Llandrygarn.

Bydd y digwyddiad yma yn Saesneg 

​

Nos Wener, Ebrill 17 - 19:00

Seicig sgwar.png

Noson yng Nghwmni Rob G Parkes

Ffilm fer yn dilyn dyn ifanc - Kian Cleator, yn gadael ei gymuned glos yn Llangefni, Ynys Môn am fyd modelu Llundain.

​

Ond mae’r gwrthdaro rhwng uchelgais a’i hunaniaeth Gymreig yn profi’n her.

​

Nos Iau, 19 Mawrth 2026

Barcud.jpg

Barcud

Noson arbennig o gerddoriaeth fyw yn y bar yn Theatr Fach Llangefni, gyda pherfformiad gan yr artist nodedig Siân James.

Noson gynnes a chroesawgar ym mar y Theatr llawn caneuon hudolus sy’n dathlu traddodiad a chreadigrwydd Cymru. Peidiwch â cholli cyfle i brofi profiad cerddorol cofiadwy mewn awyrgylch agos atoch.

​

Nos Iau, Mawrth 12 - 19:30

SJ IG.png

Noson yng Nghwmni Siân James

Sioe un dyn gan gwmni Mewn Cymeriad sy'n rhoi teyrnged i waith a bywyd y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams. Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau ein dyddiau ni.

​

Nos Lun, Chwefror 23 - 19:30

waldo gwefan.png

Waldo

Pump o Bysgotwyr. Gwerth £53 miliwn o gocên. Brwydr barhaus dros gyfiawnder. Cynhyrchiad cyntaf pwerus a theimladwy y dramodydd Liam Patrick Harrison, sy'n gofyn y cwestiwn sylfaenol - ai pysgotwyr diniwed neu smyglwyr cyffuriau rhyngwladol oedden nhw?

​

Cynhyrchiad Saesneg gan gwmni Deadman

​

Chwefror 2026

boat with text (1).png

The Freshwater Five

Bydd 2 glwb yn cystadlu yn yr hanner awr o adloniant, gyda'r enillydd ar y noson yn cynrychiol sir Fôn yn Pontio, Bangor fis Mawrth.

Dewch yn llu - bydd bar y Theatr ar agor ar y noson

​

Chwefror 2026

Adloniant.png

Adloniant CFFI

Digwyddiadau 2025

Digwyddiadau 2024

Digwyddiadau 2023

Digwyddiadau 2022

Digwyddiadau 2021

bottom of page